Y Hanes

Dae fersiwn o hanes hynafol.

Ar un adeg, tir eang oedd yr hyn a adnabyddir heddiw fel Bae Ceredigion, ac fe’i rheolwyd gan Gwyddno Garanhir. Amddiffynwyd y tir ffrwythlon hwn rhag y dyfroedd gan giatiau hirion, a oedd ar agor pan oedd y llanw yn isel er mwyn sychu’r tir.

Mewn un ffurf ar yr hanes, a oedd yn boblogaidd yn ystod oes Fictoria, swyddogaeth Seithenyn, y porthor, oedd i gau’r giatiau. Un noson, ar ol gwledd odidog, cododd storm o’r de orllewin, gan beri i’r llanw daro yn erbyn y giatiau. Ond ‘roedd Seithenyn wedi syrthio i gysgu ar ôl yfed gormod, ac wedi anghofio cau’r giatiau, ac felly fe foddwyd yr holl dir.

Ond, fe geir ffurf hŷn o’r stori mewn cerdd o’r enw Boddi Maes Gwyddno, sydd i’w ganfod yn Llyfr Du Caerfyrddin. Yn y fersiwn hon, brenin sydd yn ymweld a’r ardal oedd Seithenyn, a oedd mewn cariad a’r “tywalltwr ffynnon y môr diffaith”, Mererid. Efallai mai hi felly oedd yn gyfrifol am y giatiau, a bod Seithenyn wedi ei rhwystro rhag morol am ei dyletswyddau, a dyna paham y boddwyd y deyrnas. Disgrifia’r gerdd ei thristwch:

Diaspad vererid y ar vann caer.
hid ar duu y dodir.
gnaud guydi traha trangc hir.

Gwaedd Mererid o uchelfan y gaer
at Dduw y’i cyfeirir.
arferol yw tranc mawr yn sgîl balchder.

Y mae olion y giatiau i weld hyd heddiw - Sarn Bardig sy’n ymestyn allan i’r môr ger Y Bermo, a Sarn Gynfelyn, sydd rhwng Clarach a’r Borth.