Boddi Maes Gwyddno

Y gerdd hon yw’r crybwylliad cyntaf o Gantre’r Gwaelod, a ddaw o Lyfr Du Caerfyrddin. Darllenwch mwy amdani ar y dudalen hon.

Gwreiddiol

Seithenhin sawde allan.
ac edrychuirde varanres mor.
maes guitnev rytoes.

Boed emendiceid y morvin
aehellygaut guydi cvin.
finaun wenestir mor terruin.

Boed emendiceid y vachteith.
ae. golligaut guydi gueith.
finaun. wenestir mor diffeith

Diaspad vererid y ar vann caer.
hid ar duu y dodir.
gnaud guydi traha trangc hir.

Diaspad mererid. y ar. van kaer hetiv.
hid ar duu y dadoluch.
gnaud guydi traha attreguch.

Diaspad mererid. am gorchiut heno.
Ac nihaut gorlluit.
gnaud guydi traha tramguit.

Diaspad mererid y ar gwinev kadir
kedaul duv ae gorev.
gnaud guydi gormot eissev.

Diaspad mererid. am kymhell heno
y urth uyistauell.
gnaud guydi traha trangc pell.

Bet seithenhin synhuir vann
Rug kaer kenedir a glan.
mor maurhidic a kinran.

Cymraeg Fodern

Seithennin, saf di allan
ac edrycha ar ferw’r môr:
Maes Gwyddno a’i orchuddwyd.

Boed felltigedig y forwyn
a’i gollyngodd wedi gwledd
tywalltwr ffynnon garw’r môr

Boed felltigedig y ferch
a’i gollyngodd wedi’r frwydr
tywalltwr ffynnon y môr diffaith.

Gwaedd Mererid o uchelfan y gaer
at Dduw y’i cyfeirir.
arferol yw tranc mawr yn sgîl balchder.

Gwaedd Mererid oddi ar uchelfan y gaer heddiw;
hyd at Dduw ei hymbil.
edifeirwch sy’n arferol yn sgîl balchder.

Gwaedd Mererid sy’n fy nghyffroi heno,
ac ni hwylusa (unrhyw) lwyddiant i mi.
cwymp sy’n yn arferol yn sgîl balchder.

Gwaedd Mererid ar gwinoedd cadarn;
Duw hael a’i gwnaeth.
cyflwr anghenus sy’n arferol yn sgîl gormodedd

Gwaedd Mererid sy’n fy ngorfodi heno
oddi wrth f’ystafell.
mae tranc pell yn arferol yn sgîl balchder.

Bedd Seithennin aruchel ei feddwl
rhwng Caer Genedr a glan y môr:
arweinydd mor ardderchog (ydoedd)

Saesneg

Seithennin, stand forth
And behold the seething ocean:
It has covered Gwyddno’s lands.

Cursed be the maiden
Who let it loose after the feast,
The cup-bearer of the mighty sea.

Cursed be the girl
Who let it loose after battle,
The cup-bearer of the desolate ocean.

Mererid’s cry from the city’s heights
Reaches even God.
After pride comes a long ending.

Mererid’s cry from the city’s heights today,
Implores God.
After pride comes remorse.

Mererid’s cry overcomes me tonight,
And I cannot prosper.
After pride comes a fall.

Mererid’s cry from strong wines;
Bountiful God has made this.
After excess comes poverty.

Mererid’s cry drives me
From my chamber.
After pride comes devastation.

The grave of high-minded Seithennin,
Between Caer Genedr and the sea:
Such a great leader was he.